GCI UK Logo

Cyfeillach Croeso Cristnogol

Grace Communion International -  Cymru

Myfyrdod yr wythnosJames Henderson

Helô. 

Mae ffarwelio yn gallu bod yn anodd.

Efallai eich bod yn ffarwelio â rhywun sy’n gadael ar daith arbennig. Neu ollwng eich plentyn lawr yn yr ysgol ar y ffordd i’r gwaith. Neu y byddwch yn ffarwelio a’ch merch fel y mae hi’n mynd ar ei mis mêl gyda’r crachfonheddwr ifanc yna, ac mi all fentro edrych ar ei hôl hi neu bydd yna le. Neu efallai eich bod mewn angladd rhyw berthynas hoffus neu ffrind agos. Mae ffarwelio o bwys.

Mae’r gair ‘ffarwel, neu, da bo chi’ yn ffordd gwta o ddweud “Duw bo gyda chi”. Mae’n dweud ein bod yn gobeithio a gweddïo ni wnaiff Duw adael na chefnu ar rywun. Wrth gwrs, ni wna Ef hyn byth.

Efallai ni wnawn sylweddoli hyn ond mae Duw yno bob amser. Fe ofynnodd un ysgrifennwr Beiblaidd, “I ble yr af oddi wrth Dy Ysbryd, O Dduw?” Yr ateb oedd ac yw: ddim yn unlle. Pan godwn yn y bore mae Duw yno. Pan wnawn yrru ar yr heol brysur mae Ef yno. Mewn amserau da ac amserau gwael mae Duw yno. Yng nghanol dadl briodasol y mae yno. Ma
Felly, pan ddwedwn ein da bo chi selog i’n ffrindiau a’n teulu, fe allwn fod yn sicr bydd Duw gyda hwynt bob amser.

Cofion cynnes,

James Henderson

UK & Eire National Ministry Director