GCI UK Logo

Cyfeillach Croeso Cristnogol

Grace Communion International -  Cymru

Yngln â Cyfeillach Croeso Cristnogol

Cardiff

Mae Cyfeillach Croeso Cristnogol yn rhan o Grace Communion International (GCI), sef cymdeithas fyd-eang o 50,000 o Gristnogion efengylaidd sydd â dros 900 cynulleidfa mewn dros 100 o wledydd ar draws y byd. Mae yna 46 cynulleidfa yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, ac un gynulleidfa a chyfarfod cartref ganol wythnos, yma yng Nghymru.

Mae Cyfeillach Croeso Cristnogol yn Eglwys sydd â Christ yn Ffocws iddi ac mae’n credu mewn iachawdwriaeth trwy ras yn unig, trwy aberth Iesu Grist a fu farw dros bob un ohonom.

Mae Grace Communion International yn aelod o’r Gynghrair Efengylaidd yn Unol Daleithiau America ac ym Mhrydain.

Mae’r brif gynulleidfa’n cwrdd yn wythnosol yn y brifddinas, Caerdydd, a chynhelir grŵp trafod/astudio ganol wythnos yn Llanelli. Mae yna aelodau yng ngogledd Cymru hefyd, sy’n cwrdd yn anffurfiol
 
Mae’r gwasanaeth wythnosol yn ystyried y teulu ac yn cynnwys cyfleoedd i addoli fel teulu. Mae hefyd yn cynnwys Eglwys y Plant ar wahân, sy’n cynnwys cyfleoedd i blant bach addoli, straeon o’r Beibl a gweithgareddau crefft yn ystod y Bregeth.

Cymerir Cymundeb ar ddydd Sadwrn cyntaf pob mis.

Croeso i Addoli ar Caerdydd

Rwbina Hall
Fel arfer, mae cynulleidfa Caerdydd yn cwrdd bob bore dydd Sadwrn am 10.30 yn:

Neuadd Goffa Rhiwbeina
Lôn Ucha
Caerdydd
CF14 6HL
Cardiff
Map o’r Lleoliad

Sylwer bod y gwasanaethau trwy gyfrwng y Saesneg.

Rydym hefyd yn cyfarfod yn Llanelli

Am fanylion Llanelli, gweler ein tudalen Cartref Saesneg

Os hoffech ymuno â ni, croesewir ymwelwyr.

If you'd like to join us, visitors are welcome.

 Hawlfraint © Cyfeillach Croeso Cristnogol. Cedwir Pob Hawl.